Tuesday 28 January 2014



Cyhoeddi manylion yr anerchiad agoriadol...

Mae Gorffennol Digidol yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cynhadledd 2014 yn cael ei hagor gan Dr Mike Hayworth, Cyfarwyddwr
Cyngor Archaeoleg Prydain.

Ar ôl bod yn gweithio i’r Cyngor mewn gwahanol swyddi ers 1990, mae Mike bellach yn gyfrifol am roi cyfeiriad strategol i’r sefydliad. Nod yr elusen yw annog cymaint o bobl â phosibl i ymddiddori yn archaeoleg ac amgylchedd adeiledig hanesyddol y DU ac yn y cyswllt hwn bydd yn defnyddio adnoddau ar-lein megis
BRITARCH, fforwm ar-lein sydd wedi denu mwy na 1,700 o aelodau ers ei sefydlu ym 1996, a’r e-gylchgrawn Internet Archaeology, ac mae Mike yn credu’n gryf mewn manteisio ar dechnolegau digidol i gynorthwyo’r sector treftadaeth.


Technolegau digidol ar gyfer rheoli safleoedd

Bydd John Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Eiddo mewn Gofal gyda Cadw, yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2014 i roi cyflwyniad ar sut y gall technoloeg helpu i asesu cyflwr a pherfformiad adeiladau a chyfannu a rheoli'r wybodaeth a'r data a gynhyrchir.

Bydd John yn siarad am ddefnydd a photensial y technolegau hyn ac yn tynnu sylw at yr hyn y gallent ei gyflawni. Rhoddir sylw yn arbennig i Fwythyn Treftadaeth, ty teras bach a godwyd ym 1854 ym mhentref Cwmdar yn ne Cymru ac a brynwyd gan Cadw yn 2012. Arbrawfyw hwn a fydd yn cynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol i'r sector cyfan am adeiladau traddodiadol yng Nghymru a thu hwnt.


Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) sy'n mynd a'r penawdau yn y wasg adeiladu, ond mae hyn yn ymwneud ag adeiladu o'r newydd fel rheol. Mae prosiect Bwythyn treftadaeth Cadw yn canolbwyntio ar ddysgu, ac mae hyn yn cynnwys BIM. Mae'r adeilad wedi'r laser-sganio a chynhyrchwyd model 3D, ac o hyn bydd BIM, gan ddefnyddio Revit, yn cael ei ddatblygu, ar sail ystod o wybodaeth a setiau data.


Delweddu storïau ar safle treftadaeth

Bydd Tom Duncan o Duncan McCauley yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2014 i egluro sut y gall cyfryngau digidol helpu lleoliadau treftadaeth ddiwylliannol i greu amgylcheddau adrodd storïau tra’n cynnal dilysrwydd y safle yr un pryd.
 
Bydd Tom yn siarad am y dasg o weithio gyda safle hanesyddol i ddarganfod sut y gall ei hanes gael ei gyflwyno i gynulleidfa gyfoes drwy gyfryngau digidol heb herio stori bensaernïol bresennol y lle. Bydd yn ystyried cyd-destun hanesyddol a damcaniaethol rhyngweithiadau digidol a gofodol a chanfyddiad yr ymwelydd o’r synthesis rhwng cyfryngau digidol a phriodweddau gofodol.


 
Rhodir sylw I nifer o brosiectau a gynhaliwyd gan gwmni Duncan McCauley er mwyn dangos y gwahanol ffyrdd y mae'r cyfryngau hyn wedi cael eu defnyddio ar safleoedd unigol. Mae'r rhain yn cynnwys Amgeuddfa Dinas Potsdam lle y mae adluniadau animeiddiedig o Hen Neuadd y Dref a phalas Barberini yn ffurfio rhan o osodwaith amlgyfrwng, ac Amgeuddfa Gwaith Brics Zehdenick, Brandenburg lle mae brics golau sy'n cael eu cario gan yr ymwelwyr yr ymateb I donnau uwchsain I ddangos gwahanol dymereddau yn y twnnel tanio. Ym Mhalas Hampton Court defnyddir gosodweithiau sain a fideo amlsianel yn Siambr Gwarchodlu'r Frenhines ac oriel y Frenhines I ailddehongli paentiadau nenfwd baroc ac ail-greu gwely teithol Sior II.
 








I weld y crynodeb llawn, ewch i dudalen y siaradwyr.

Monday 27 January 2014


Y Grŵp Treftadaeth Adeiladau Digidol



Mae’n bleser mawr gennym groesawu Dr Douglas Cawthorne fel un o’r prif siaradwyr yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2014. Douglas yw cydlynydd y Grŵp Treftadaeth Adeiladau Digidol ym Mhrifysgol De Montfort, lle y mae wedi sefydlu cyfleusterau arbenigol ar gyfer argraffu modelau pensaernïol ac arteffactau archaeolegol mewn 3D, a laser-sganio a gwneud modelau realiti rhith o adeiladau, cerbydau ac adeiladweithiau hynafol ar gyfer cymwysiadau treftadaeth, wrth ddatblygu canolfan amlddisgyblaethol i ymchwilio i’r defnydd o dechnolegau digidol i ddeall a dehongli’r gorffennol.



 
 
 
 




Bydd yn rhoi sylw arbennig yn ei gyflwyniad i Gymunedau Cysylltiedig, prosiect Treftadaeth Gymunedol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo un ar ddeg o grwpiau treftadaeth gymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru a Lloegr i greu adluniadau digidol o’u hadeiladau hanesyddol. Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben, bydd nifer o enghreifftiau gorffenedig yn cael eu dangos, ynghyd ag esboniad o’r broses gyd-gynhyrchu gyda grwpiau treftadaeth gymunedol, rhai o’r problemau sydd ynghlwm wrth wneud adluniadau dilys, pam y cafodd yr adluniadau eu cynhyrchu, a’r hyn y gobeithir y byddant yn ei gyflawni ar gyfer gwaith y grwpiau.


Myfyrdodau ar orffennol digidol...


Mae’r crynodebau wedi dechrau dod i law ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2014, a’r cyntaf i gael sylw ar ein BlogSpot yw un Judith Winters. Judith yw golygydd Internet Archaeology, y prif e-gylchgrawn archaeoleg. Bu Internet Archaeology yn cyhoeddi ar y we ers 1996, gan ddarparu cynnwys academaidd a phrofi posibiliadau cyhoeddi electronig drwy gyfrwng fideo, awdio, setiau data chwiliadwy, delweddu, animeiddio a mapio rhyngweithiol. Mae Internet Archaeology yn cael ei westeia gan Brifysgol Efrog, a chaiff yr holl gynnwys ei archifo’n llawn gan y Gwasanaeth Data Archaeoleg.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Bydd Judith yn siarad am Internet Archaeology ac yn rhannu ei phrofiadau ers deunaw mlynedd. Bydd yn edrych ar yr e-gylchgrawn drwy lens digidol, gan fwrw golwg dros y mentrau, y digwyddiadau pwysig, ac uchafbwyntiau (ac isafbwyntiau) golygu, cyhoeddi a diogelu Internet Archaeology. Yn wyneb y newidiadau mewn cyhoeddi ysgolheigaidd, safonau a thechnoleg, y cynnydd mewn mynediad agored, a’r tueddiadau presennol tuag at rannu a chyfannu data, bydd Judith hefyd yn myfyrio ar ddyfodol cyhoeddi digidol ym maes archaeoleg.

Monday 12 August 2013

Galwad am gyfraniadau

Rydym yn ceisio cyflwyniadau gan y rheiny sy’n gweithio ar brosiectau arloesol yn y meysydd a amlinellir isod, naill ai fel ymchwilwyr neu staff, a all gyfrannu i’r gynhadledd flaengar hon. Gellir cyfrannu ar ffurf cyflwyniadau, seminarau neu weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol drwy’r sesiwn ‘anghynhadledd’ neu stondin arddangos. Manylir isod ar y gwahanol ddulliau.


Themâu:

Y ddwy brif thema a fydd yn cael sylw eleni yw Arolygu Technegol a Chanlyniadau. Gall pynciau gynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i: Sganio Daearol, Geoffiseg, LiDAR, Ffotogrametreg, awyrennau di-beilot, GIS, e-gyhoeddi, argraffu 3D, delweddu, ac adnoddau gwe.

Papurau:

Papurau 20 munud wedi’u cyflwyno yn y dull confensiynol, sef fformat cyflwyniad a PowerPoint. Bydd 4 papur o’r fath ym mhob sesiwn a chyfnod holi a thrafod o 10 munud ar ddiwedd pob sesiwn. Oherwydd yr amserlen dynn iawn, mynnir bod y siaradwyr yn cadw at yr amser a neilltuir iddynt.

Sesiynau seminar:

Seminarau 45 munud i hybu trafod mater neu bwnc neilltuol. Arweinir pob seminar gan ddau neu dri o siaradwyr a fydd yn rhoi cyflwyniadau o 5 munud ar un o’r themâu uchod wedi’u dilyn gan 30 munud o drafodaeth gyffredinol gyda’r cynrychiolwyr.

Gweithdai:

Cynhelir y gweithdai ar fore’r 13eg o Chwefror. Dylent gynnig arddangosiadau ymarferol neu hyfforddiant ar agwedd benodol ar dechnoleg ddigidol sydd â chymwysiadau treftadaeth. Gall gweithdai fod yn un sesiwn o 90 munud neu’n ddwy sesiwn o 40 munud.
Os hoffech gymryd rhan yn y gynhadledd, anfonwch fraslun (100-150 o eiriau) o’ch cyflwyniad / trafodaeth seminar / gweithdy arfaethedig i susan.fielding@rcahmw.gov.uk ynghyd â’ch enw a manylion eich sefydliad.

Sesiwn Anghynhadledd:

Cyfres o sesiynau 15 munud y gall unrhyw un sy’n mynychu’r gynhadledd eu bwcio. Gellir bwcio sesiwn o 9.30am ymlaen ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yn unig, a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i gynadleddwyr wneud cyflwyniad ar unrhyw brosiect, ymchwil neu fater yn ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol ym maes treftadaeth. Gall cyflwyniadau fod wedi’u paratoi ymlaen llaw gan ddefnyddio PowerPoint, neu gallant fod yn ymateb i drafodaethau neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

Stondinau:

Bydd nifer cyfyngedig o stondinau Arddangos neu Boster ar gael i’w llogi am y ddau ddiwrnod. Bydd stondinau mawr ar gael am £100 neu stondinau Poster am £50 (nid oes angen talu TAW). Gellir eu bwcio ar y ffurflen gofrestru pan fydd ar gael.

Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyniadau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a gweithdai yw Dydd Gwener, yr 11eg o Hydref 2013. Caiff penderfyniadau eu gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r cyflwyniadau unigol a sut maent yn cyd-fynd â’r rhaglen gyffredinol, a hysbysir yr ymgeiswyr erbyn Dydd Gwener, y 18fed o Dachwedd 2013.

Bydd y rheiny sy’n cyflwyno papur, seminar neu weithdy yn gallu cofrestru am ddim. Byddwch cystal â sylwi: er ein bod ni’n barod i dderbyn cyflwyniadau sy’n cynnwys mwy nag un siaradwr, ni allwn gynnig ond un cofrestriad am ddim ar gyfer pob cyflwyniad. Ni allwn, yn anffodus, gynnig treuliau pellach.

Yn achos ymgeiswyr tramor, gellir ystyried y posibilrwydd o gyflwyno papurau drwy we-ffrydio byw.

I gael mwy o wybodaeth, neu atebion i unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Susan Fielding yn susan.fielding@rcahmw.gov.uk neu ar 01970 621219.

Cyhoeddi Gorffennol Digidol 2014

Cynhadledd ddau ddiwrnod sy’n canolbwyntio ar dechnolegau digidol arloesol ar gyfer casglu, dehongli a lledaenu gwybodaeth am safleoedd ac arteffactau treftadaeth yw Gorffennol Digidol. 
Bellach yn ei chweched flwyddyn, bydd cynhadledd Gorffennol Digidol 2014 yn cael ei chynnal yn Llandudno, a bydd yn cynnig cyfuniad o bapurau, seminarau, a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn edrych ar y technegau arolygu technegol a dehongli diweddaraf a’u cymwysiadau ym meysydd dehongli, addysgu a diogelu treftadaeth.