Y Grŵp Treftadaeth Adeiladau Digidol
Mae’n bleser mawr gennym groesawu Dr Douglas
Cawthorne fel un o’r prif siaradwyr yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2014.
Douglas yw cydlynydd y Grŵp Treftadaeth Adeiladau Digidol ym Mhrifysgol
De Montfort, lle y mae wedi sefydlu cyfleusterau arbenigol ar gyfer argraffu
modelau pensaernïol ac arteffactau archaeolegol mewn 3D, a laser-sganio a
gwneud modelau realiti rhith o adeiladau, cerbydau ac adeiladweithiau hynafol
ar gyfer cymwysiadau treftadaeth, wrth ddatblygu canolfan amlddisgyblaethol i
ymchwilio i’r defnydd o dechnolegau digidol i ddeall a dehongli’r gorffennol.
Bydd yn rhoi sylw arbennig yn ei gyflwyniad i Gymunedau Cysylltiedig, prosiect Treftadaeth Gymunedol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo un ar ddeg o grwpiau treftadaeth gymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru a Lloegr i greu adluniadau digidol o’u hadeiladau hanesyddol. Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben, bydd nifer o enghreifftiau gorffenedig yn cael eu dangos, ynghyd ag esboniad o’r broses gyd-gynhyrchu gyda grwpiau treftadaeth gymunedol, rhai o’r problemau sydd ynghlwm wrth wneud adluniadau dilys, pam y cafodd yr adluniadau eu cynhyrchu, a’r hyn y gobeithir y byddant yn ei gyflawni ar gyfer gwaith y grwpiau.
No comments:
Post a Comment